Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (72) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 5 a 7 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Pwynt o Drefn
Cododd Ieuan Wyn Jones bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9 yn ymwneud ag ymddygiad yn y Siambr, yn dilyn sylwadau a wnaeth Ken Skates a oedd yn awgrymu mai Ieuan Wyn Jones fyddai’r Gweinidog pan oedd Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud penderfyniadau ynghylch Powys Fadog. Tynnodd Ken Skates unrhyw sylwadau a oedd yn ffeithiol anghywir yn ôl.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.25.
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Buddsoddi i Arbed
Dechreuodd yr eitem am 14.42.
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Gwella Ysgolion
Dechreuodd yr eitem am 15.13.
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Adolygiad o Wasanaethau Cynghori
Dechreuodd yr eitem am 15.52.
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cynllunio a Chyflenwi Integredig
Dechreuodd yr eitem am 16.27.
7. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Plant a Phobl Ifanc Egnïol
Dechreuodd yr eitem am 16.53.
8. Dadl ar Ofal Iechyd y Llygaid yng Nghymru
Dechreuodd
yr eitem am 17:24
NDM5009 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd hyd yma i wella gofal iechyd y llygaid; a
2. Yn cydnabod
bod yna fwy o waith i’w wneud ac y bydd Llywodraeth Cymru yn
datblygu cynllun yn amlinellu ei hymrwymiad i wella gofal iechyd y
llygaid ar gyfer pobl Cymru ymhellach fel rhan o raglen iechyd y
cyhoedd ehangach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu ‘camau a gymerwyd hyd
yma’ a rhoi ‘datblygiadau a wireddwyd gan y sector
cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector’ yn ei
le.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘i'w wneud,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:
‘ac y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd y llygaid mwy gwybodus’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
9 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith hwn ac yn adeiladu arno.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu’r broses o weithredu’r cynllun gofal iechyd llygaid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae modd eu hosgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid sy’n cael ei gyhoeddi yn sicrhau bod pob plentyn pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cael profion golwg yn yr ysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chasgliadau ymchwil sy’n awgrymu bod strwythur a chyfeiriad canfyddedig optometreg o ran gwerthu sbectolau yn annog y gymuned i ystyried bod profion llygaid (a gynhelir mewn siopau) yn wahanol i gamau gwarchod iechyd sylfaenol eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5009 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r datblygiadau a wireddwyd gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella gofal iechyd y llygaid;
2. Yn cydnabod bod yna fwy o waith i’w wneud ac y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd y llygaid mwy gwybodus;
3. Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith hwn ac yn adeiladu arno;
4. Yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae modd eu hosgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid sy’n cael ei gyhoeddi yn sicrhau bod pob plentyn pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cael profion golwg yn yr ysgol
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18:18
Daeth y cyfarfod i ben am 18:21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 20 Mehefin 2012